Gareth Rees

Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae Gareth wedi gweithio yn y diwydiant teledu Cymreig am dros 20 o flynyddoedd. Fel Rheolwr Gyfarwyddwr Boomerang tyfodd Gareth y cwmni i fod yn un o brif gwmnïau Cymru yn cynhyrchu ystod o gyfresi llwyddiannus, gan gynnwys ‘Posh Pawn’ ar C4, ‘The Clare Balding Show’ ar y BBC a’r sioe arloesol ‘GT Academy’ a gafodd ei ariannu gan frandiau byd-eang.

Roedd Gareth yn un o’r tîm a fu’n gyfrifol am lansio’r busnes Boomerang + PLC ar AIM yn 2007. Mae’n deall y sialensau o reoli a thyfu cwmni annibynnol ac arwain tîm creadigol, cryf.

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr Nimble Dragon dros y flwyddyn diwethaf mae Gareth wedi sefydlu’r cwmni fel un o’r prif leisiau ar y sîn creadigol Cymreig. Mae gan y cwmni gysylltiadau cadarn gyda darlledwyr lleol a rhwydwaith, ynghyd â chychwyniad busnes cryf.

Sharon Bennett

Pennaeth Rhaglenni Dydd a Nodwedd

Cyn ymuno â Nimble Dragon roedd Sharon Bennett yn Bennaeth Blink Films Wales ac yn uwch gynhyrchydd ar fformatau newydd, ‘Let’s Get a Good Thing Going’ i BBC 1, ‘Steph and Dom’s 1 Star to 5 Star’ a ‘Collection Hunters’ i C4. Cyn hyn roedd hi’n uwch gynhyrchydd yn Boomerang lle roedd yn gyfrifol am gyfres gyntaf ‘Extreme Cake Makers’, wnaeth ennill gwobr y gyfres ddydd orau yn y Broadcast Awards, yn ogystal â 'Flat Pack Mansions' a dwy gyfres o 'Posh Pawn'.

Mae ei chredydau blaenorol yn cynnwys 'Gogglebox', 'Come Dine with Me', 'Four in a Bed', 'Coach Trip', 'Obsessive Compulsive Cleaners' i Channel 4 a 'Wanted in Paradise', 'The Great British Bake Off', 'Bargain Hunt', 'Flog It!' a 'The One Show' i’r BBC.

Rob Harper

Cyfarwyddwr Cyllid

Ymunodd Rob â Channel 4 yn 2001. Fel Cyfarwyddwr Cyllid 4 Rights, busnes masnachol Channel 4, am dros ddeng mlynedd bu Rob yn rheoli un o gronfeydd buddsoddi annibynnol rhaglenni mwyaf y DU, gan fuddsoddi yn rhai o raglenni a chyfresi mwyaf eiconig Channel 4, gan gynnwys 'Shackleton', 'Shameless', 'Green Wing', 'The Joe Simpson films', 'The Beckoning Silence' a 'Touching the Void'. Yn 2011 fe wnaeth ddatblygu model ariannu unigryw ar gyfer y ffilm hynod lwyddiannus, 'The Inbetweeners Movie', a aeth ymlaen i fod yn un o ffilmiau comedi mwyaf llwyddiannus y DU.

Yn fwy diweddar mae Rob wedi canolbwyntio ar apwyntiadau Cyfarwyddwyr Cyllid mewn cwmnïau entrepreneuraidd/cychwynnol o fewn y diwydiannau creadigol, gan gynnwys Nimble Dragon.

Katy Cartwright

Pennaeth Cynhyrchu

Mae gan Katy brofiad helaeth o ugain mlynedd o reoli cynhyrchiadau amrywiol gan gynnwys rhai ffeithiol, adloniant, chwaraeon a drama. Cyn ymuno â Nimble Dragon roedd Katy yn rheolwr cynhyrchu yn Blink Films, a chyn hynny yn Boomerang, yn rhedeg nifer fawr o gynhyrchiadau llwyddiannus gan gynnwys 'Posh Pawn' ac 'Extreme Cake Makers' i Channel 4. Dechreuodd Katy ei gyrfa yn y BBC, yn gweithio ar amrywiaeth o raglenni a chyfresi, gan gynnwys 'DIY SOS': 'The Big Build' a 'Doctor Who Confidential'.